Newyddion Cyngor Cymuned Llanllyfni

Tachwedd 2024

Gwahoddiad i geisio am dendr

Gwahoddir ceisiadau i geisio am dendr Torri Mynwentydd a Llwybrau Cyhoeddus Cyngor Cymuned Llanllyfni.

Am fwy o wybodaeth dylid cysylltu gyda’r Clerc:

Nia Jones, Tan Y Perthi,  Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB

neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau: 31 Ionawr 2025

Gwahodd Ceisiadau am Gymorth Ariannol

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.

Bydd angen anfon llythyr cais yn nodi defnydd o’r cymorth ariannol, ynghŷd â chyflwyno Mantolen Ariannol gyfredol at y Clerc: Nia Jones, Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau : 31 Ionawr 2025

Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.

Gorffennaf 2024

Rhentu Tir Pori

Gwahoddir prisiau oddi wrth unrhyw berson fuasai a diddordeb rhentu tir pori sydd yn berchen i Gyngor Cymuned Llanllyfni ger Mynwent Macpela, Penygroes.

Manylion a dogfennau perthnasol ar gael oddi wrth y clerc, Nia Jones - drwy e-bostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau: 31/08/2024

Mehefin 2024

Archwiliad Blynyddol

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024.

Dyddiad cyhoeddi – 16 Mehefin 2024

Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Nia Jones, Clerc Cyngor Cymuned Llanllyfni,
cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com.

Rhwng yr oriau o 1700 a 2000 o ddydd Mawrth i ddydd Iau yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 26 Gorffennaf 2023.

Gweld yr hysbyseb llawn

Hysbysiad o Gyfethol

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn Ward Llanllyfni, a fod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Cliciwch yma i weld yr hysbysiad yn gyflawn

Ebrill 2024

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir ceisiadau gan gwmniau cymwys i geisio am dendr i osod peipen ddŵr ym Mynwent Macpela, Penygroes.

Am fwy o wybodaeth dylid cysylltu â’r clerc Nia Jones, Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com.

Dyddiad cau'r ceisiadau: 10-05-2024

Mawrth 2024

Hysbysiad o Gyfethol

Hysbysiad o gyfethol dyddiedig Mawrth 2024

Chwefror 2024

Hysbysiad o Gyfethol

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn Ward Nantlle, a fod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Cliciwch yma i weld yr hysbysiad yn gyflawn

Ionawr 2024

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir ceisiadau gan gwmniau cymwys i geisio am dendr i godi wal sydd wedi dymchwel ym Mynwent Macpela, Penygroes.

Am fwy o wybodaeth dylid cysylltu â’r clerc Nia Jones, Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com.

Dyddiad cau'r ceisiadau: 05-02-2024

Rhagfyr 2023

Hysbysiad o gyfethol - Ward Talysarn

Hydref 2023

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.

Bydd angen anfon llythyr cais yn nodi defnydd o’r cymorth ariannol, ynghŷd â chyflwyno Mantolen Ariannol gyfredol at y Clerc: Nia Jones, Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau : 31 Ionawr 2024

Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.

Mehefin 2023

Archwilio Cyfrifon am y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023

Dyddiad cyhoeddi - 18fed Mehefin 2023

Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copiau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Nia Jones (Clerc Cyngor Cymuned Llanllyfni), Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SB.

01286 881889  |  cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Rhwng yr oriau o 1700 a 2000 o ddydd Mawrth i ddydd Iau Yn dechrau ar 3ydd Gorffennaf 2023 ac yn dod i ben ar 28ain Gorffennaf 2023.

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r hysbysiad llawn.

Mai 2023

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir prisiau oddi wrth Gontractwyr cymwys am waith atgyweirio safle bws ym Mhenygroes.

Am fwy o fanylion a threfnu i ymweld â’r safle dylid cysylltu â’r clerc Nia Jones - drwy e-bostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com neu ffonio 07887 746618.

Dyddiad cau: 31-05-2023

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir prisiau oddi wrth Gontractwyr cymwys i dynnu lawr cwt nad yw o ddefnydd ym Mynwent Gorffwysfa Llanllyfni.

Am fwy o fanylion a threfnu i ymweld â’r safle dylid cysylltu â’r clerc Nia Jones - drwy e-bostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com neu ffonio 07887 746618.

Dyddiad cau: 31-05-2023

Cwtin

Hoffai Cyngor Cymuned Llanllyfni gadarnhau eu bod mewn trafodaeth gyda'r Orsaf iddynt lesio darn o dîr ym Mhenygroes a elwir yn Cwtîn ar gyfer sefydlu rhandiroedd. Er hyn, mae trigolion sydd yn byw gerllaw i Cwtîn wedi codi pryderon ynglŷn â'r datblygiad hwn ac felly mae'r Cyngor Cymuned yn edrych fewn ac mewn trafodaeth gyda nhw a'r Orsaf i ddatrys y mater. Nid Cyngor Cymuned Llanllyfni sydd berchen ar parc chwarae plant sydd gerllaw i Cwtîn a felly nid yw'r darn hwn o dir o dan unrhyw drafodaeth yn y mater hwn.

Llanllyfni Community Council would like to confirm that they are in discussion with Yr Orsaf for them to lease a piece of land in Penygroes known as Cwtîn for the establishment of allotments. Despite this, residents who live close to Cwtîn have raised concerns about this development and therefore the Community Council is looking into and in discussion with them and Yr Orsaf to resolve the issue. Llanllyfni Community Council does not own a children's play park which is close to Cwtîn and therefore this piece of land is not under any discussion in this matter.

Ebrill 2023

DEDDF CYRFF CYHOEDDUS (EU DERBYN I GYFARFODYDD) ADRAN 1(4)A

O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, ATODLEN 12, PARAGRAFF 26(2)(a)

Yn unol a gofynion y darpariaethau statudol uchod, RHODDIR HYSBYSIAD FELLY y cynhelir CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANLLYFNI yng Nghanolfan Talysarn ar Nos Fawrth , 9fed o Fai 2023 am 7.00 y.h.

Mae gan aelodau o’r cyhoedd hawl i fynychu’r cyfarfod oni bai eu bod wedi eu heithrio’n gywir gan benderfyniad.

Os am fwy o fanylion yna cysylltwch gyda’r clerc Nia Jones trwy ebostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com.

Nia Jones
Clerc y Cyngor
27ain Ebrill 2023

This notice is to inform the public that the annual meeting of the community council will be held on Tuesday, 9th May 2023 at Canolfan Talysarn at 7pm. This is also open to the public. For further information please contact the clerk by email.

Fersiwn PDF / PDF Version.

Tachwedd 2022

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.

Bydd angen anfon llythyr cais yn nodi defnydd o’r cymorth ariannol, ynghŷd â chyflwyno Mantolen Ariannol gyfredol at y Clerc: Nia Jones, Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau : 31 Ionawr 2023

Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.

Mehefin 2022

Archwilio Cyfrifon am y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022

Dyddiad cyhoeddi - 20fed Mehefin 2022

Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copiau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Nia Jones (Clerc Cyngor Cymuned Llanllyfni), Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SB.

01286 881889  |  cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Rhwng yr oriau o 1700 a 2000 o ddydd Llun i ddydd Gwener Yn dechrau ar 4ydd Gorffennaf 2022 ac yn dod i ben ar 29ain Gorffennaf 2022.

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r hysbysiad llawn.

Mai 2022

Hysbysiad o gyfethol - Ward Llanllyfni

Hysbysiad o gyfethol - Ward Penygroes

Hysbysiad o gyfethol - Ward Talysarn

- - -

DEDDF CYRFF CYHOEDDUS (EU DERBYN I GYFARFODYDD) ADRAN 1(4)A O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, ATODLEN 12, PARAGRAFF 26(2)(a)

Yn unol a gofynion y darpariaethau statudol uchod, RHODDIR HYSBYSIAD FELLY y cynhelir CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANLLYFNI yng Nghanolfan Talysarn ar Nos Fawrth, 17eg o Fai 2022 am 7.00 y.h.

Mae gan aelodau o’r cyhoedd hawl i fynychu’r cyfarfod oni bai eu bod wedi eu heithrio’n gywir gan benderfyniad.

Os am fwy o fanylion yna cysylltwch gyda’r clerc Nia Jones trwy ebostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Nia Jones
Clerc y Cyngor
2il Mai 2022

Ionawr 2022

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir ceisiadau i geisio am dendr Torri Mynwentydd a Llwybrau Cyhoeddus Cyngor Cymuned Llanllyfni.

Am fwy o wybodaeth dylid cysylltu gyda’r Clerc:

Nia Jones, Tan Y Perthi,  Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB

neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau: 31 Ionawr 2022.

Tachwedd 2021

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir prisiau oddi wrth Gontractwyr cymwys i gario allan gwaith ffensio ym Mynwent Macpella, Penygroes.

Manylion tendr a dogfennau perthnasol ar gael oddi wrth y clerc, Nia Jones - drwy e-bostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com neu ffonio 07887746618.

Dyddiad cau 10.12.2021

Ceisiadau am Gymorth Ariannol

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.

Bydd angen anfon llythyr cais yn nodi defnydd o’r cymorth ariannol, ynghyd a chyflwyno Mantolen Ariannol gyfredol at y Clerc:

Nia Jones, Tan Y Perthi,  Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB

neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau: 31 Ionawr 2022

Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.

Awst 2021

Archwilio Cyfrifon am y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021

Dyddiad cyhoeddi - 5ed Awst 2021

Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copiau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Nia Jones (Clerc Cyngor Cymuned Llanllyfni), Tan Y Perthi, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SB.

01286 881889  |  cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Rhwng yr oriau o 1700 a 2000 o ddydd Llun i ddydd Gwener Yn dechrau ar 20 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 17 Medi 2021.

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r hysbysiad llawn.

Mehefin 2021

**GWYBODAETH BWYSIG**

Mae gwaith brys yn cael ei gario allan ym Mynwent Macpela, Penygroes yn dechrau dydd Mawrth 29 Mehefin 2021 i reoli y sefyllfa sydd wedi codi gyda y nifer cwningod sydd yno. Bydd rhan o'r fynwent wedi ei thapio i ffwrdd am 48awr a NI FYDD modd i neb fynd i'r ardal yma o'r fynwent yn ystod y cyfnod hwn. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a dealltwriaeth.

Mai 2021

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

DEDDF CYRFF CYHOEDDUS (EU DERBYN I GYFARFODYDD) ADRAN 1(4)A O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, ATODLEN 12, PARAGRAFF 26(2)(a)

Yn unol a gofynion y darpariaethau statudol uchod, RHODDIR HYSBYSIAD FELLY y cynhelir CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANLLYFNI yn rhithiol drwy system Zoom ar Nos Fawrth , 11eg o Fai 2021 am 7.00 y.h.

Mae gan aelodau o’r cyhoedd hawl i fynychu’r cyfarfod oni bai eu bod wedi eu heithrio’n gywir gan benderfyniad.

Os am fanylion i ymuno gyda’r cyfarfod yna cysylltwch gyda’r clerc Nia Jones trwy ebostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com.

Nia Jones,
Clerc y Cyngor.
4 Mai 2021

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r hysbysiad.

Mawrth 2021

Gwahoddiad i brisio gwaith

Gwahoddir prisiau oddi wrth Gontractwyr cymwys i adeiladu ffyrdd tarmac newydd ynghyd â gwaith cysylltiol ym Mynwent Macpella, Penygroes.

Manylion tendr a dogfennau perthnasol ar gael oddi wrth y clerc, Nia Jones - drwy e-bostio cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com neu ffonio 07887746618.

Dyddiad cau 30.04.2021

Hysbysiad o Gyfethol

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Ward uchod, a fod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Cliciwch yma i weld yr hysbysiad yn gyflawn

Rhagfyr 2020

Ceisiadau am Gymorth Ariannol

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.

Bydd angen anfon llythyr cais yn nodi defnydd o’r cymorth ariannol, ynghyd a chyflwyno Mantolen Ariannol gyfredol at y Clerc:

Nia Jones, Tan Y Perthi,  Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SB

neu cyngorcymunedllanllyfni@gmail.com

Dyddiad cau’r ceisiadau: 31 Ionawr 2021

Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.

Tachwedd 2020

Digwyddiadau Cofio yn ystod y cyfnod atal Coronafeirws

Mae Sul y Cofio yn ddiwrnod o fyfyrio a phan mae nifer o bobl yn cymryd amser i dalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod gwrthdaro milwrol.

Oherwydd Coronafeirws, mae'n anochel y bydd Sul y Cofio ychydig yn wahanol eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau sy'n nodi y caniateir i ddigwyddiadau Cofio gael eu cynnal yn yr awyr agored ar 7 neu 8 Tachwedd. Ni chaniateir gwasanaethau o dan do neu gorymdeithiau.

Caniateir i hyd at uchafswm o 30 o unigolion, gan gynnwys trefnwyr y digwyddiad, ymgynnull yn yr awyr agored a gallant gymryd rhan mewn seremoni Cofio. Bydd gan y rhai sy'n trefnu’r digwyddiad ddyletswydd gofal i'r rhai sy'n mynychu i'w wneud mor ddiogel â phosib a chadw at y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a hylendid.

Mae tîm Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn ysgrifennu at gynghorau cymuned, tref a dinas ledled Gwynedd, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o reoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin#section-53846

Hydref 2020

Holiadur Anghenion Tai Penygroes

Mae Cymdeithas Dai Grŵp Cynefin wedi adnabod darn o dir gyferbyn a Maes Dulyn ym Mhenygroes gellir ei ddefnyddio ar gyfer datblygu tai fforddiadwy. Mae Grŵp Cynefin yn awyddus awyddus i ddod i wybod beth yw’r sefyllfa dai yn ardal Penygroes. Mae map o’r safle wedi ei gynnwys isod.

Pwrpas yr holiadur yw darganfod beth yw’r angen am dai yn yr ardal hon, os oes angen, a pha fath o dai sydd angen eu hangen arnoch chi. Mae’r holiadur hefyd yn rhoi cyfle i chi nodi eich barn am unrhyw ddatblygiad posib yn eich ardal chi.

Mae modd cwblhau’r holiadur drwy ddilyn y ddolen isod. Ni ddylai’r holiadur gymryd dim mwy ‘na 10 munud i chi ei gwblhau. Gofynnwn yn garedig  i chi gwblhau’r holiadur erbyn Dydd Gwener, Hydref 23, 2020.

http://bit.ly/_Penygroes

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

map-penygroes

Medi 2020

Hysbysiad penodi dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr  o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

Gorffennaf 2020

Seddi Gwag Achlysurol - Wardiau Penygroes a Talysarn

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o seddi gwag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn wardiau Penygroes (1 sedd) a Talysarn (1 sedd) ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.

Cynhelir etholiad i lenwi’r seddi gwag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward perthnasol i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 14 Awst, 2020.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.

Clerc y Cyngor
27 Gorffennaf 2020

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Llanllyfni

DEDDF CYRFF CYHOEDDUS (EU DERBYN I GYFARFODYDD) ADRAN 1(4)A

O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, ATODLEN 12, PARAGRAFF 26(2)(a)

Yn unol a gofynion y darpariaethau statudol uchod, RHODDIR HYSBYSIAD FELLY y cynhelir CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANLLYFNI, ar ddydd Mawrth, 14eg o Orffennaf 2020 am  7.00 y.h.

Alwen Johnson,
Clerc y Cyngor
07.07.20

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

Ionawr 2020

Gwahoddir ceisiadau am swydd Clerc i Gyngor Cymuned Llanllyfni.

Lleoliad: Cyfarfodydd Pwyllgor ac Is-bwyllgor misol ym Mhenygroes yn ogystal a chyflawni y gwaith gweinyddol o’ch  cartref.  
Oriau Gwaith: 15 awr yr wythnos.  
Prif Ddyletswyddau: Presennol ymhob cyfarfod Cyngor, cadw cofnodion, gweithredu fel Swyddog Ariannol y Cyngor a Swyddog Claddu i fynwentydd y Plwyf, cadw’n ddiogel holl ddogfennau y Cyngor, adrodd i’r wasg a chyfryngau a goruchwylio dyletswyddau contractwyr. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Cyflog: £10.97 yr awr - Graddfa 21 (pro rata). Pensiwn a chyfraniad tuag at gostau ffôn a rhyngrwyd yn ogystal.
Dyddiad Cau: Pymthegfed o Chwefror 2020, 5.00 y.h

This is an advert for a Clerk for the Llanllyfni Community Council – the ability to speak welsh is essential.

Am fwy o fanylion a swydd ddisgrifiad cysylltwch a’r Cadeirydd, Mr Barry Bracegirdle, ar:

E-bost: barrybrace@live.co.uk
Ffôn: 07881 870 088

Mehefin 2019

Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr - cyfrifon y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

WARD TALYSARN
SEDD WAG ACHLYSUROL

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o  sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Talysarn ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 28 Mehefin, 2019.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

Alwen Johnson
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 10 Mehefin 2019

Mai 2019

Cyfarfod Blynyddol 2019 Cyngor Cymuned Llanllyfni

yn Festri Capel Soar Penygroes, ar nos Fawrth, 14eg o Fai 2017 am 7.00 y.h

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

Mawrth 2019

WARD TALYSARN
SEDD WAG ACHLYSUROL

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o  sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Talysarn ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 22 Mawrth, 2019.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

Alwen Johnson
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 4 Mawrth 2019

Awst 2018

Seddi Gwag Achlysurol - Ward Talysarn

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o 2 sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Talysarn ar Gyngor Cymuned Llanllyfni.

Cynhelir etholiad i lenwi’r dwy sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad gan ddeg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Llun,3 Medi, 2018.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.

Alwen Johnson
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 13 Awst 2018

Rhagfyr 2017

Ceisiadau am arian

Bydd ceisiadau am arian yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod y Cyngor fis Chwefror - croesawir ceisiadau gan fudiadau.

Ceisiadau drwy lythyr os gwelwch yn dda, a rhaid cofio bod angen copi cyfredol o'r cyfrifon i gyd-fynd â'r cais er mwyn cael ei ystyried.

Cynghorwyr Sir

Diolch i'r Cynghorwyr Judith Humphreys a Craig ab Iago am eu hadroddiadau cynhwysfawr i'r Cyngor Cymuned yn ystod cyfarfodydd y Cyngor. Rhoddir gwahoddiad i'n Cynghorwyr Sir i'n cyfarfodydd misol yn rheolaidd, ac mae'r cyswllt hwn yn werthfawr.

Hydref 2017

Dorothea

Croesawyd Ffion Llwyd-Jones, Mark Billingham a Tim Heatley o gwmni 'Dorothea Lakes' i’n cyfarfod fis Hydref.  Cafwyd cyfle i drafod yn anffurfiol, ac fe rannodd y perchnogion eu gweledigaeth ar gyfer cynllun hydro ar y safle gyda’r Cynghorwyr.  

Trafodwyd llwybrau cyhoeddus, a’r dymuniad gan y cwmni i warchod ac adfer llwybrau ar y safle.  Gofynwyd i’r Cynghorwyr drosglwyddo neges i’r cyhoedd i adrodd am unrhyw ymddygiad amhriodol i’r heddlu.  Roedd y cwmni yn dweud eu bod am geisio ffyrdd i sicrhau atal ‘tombstoning’ a mynediad i adeiladau anniogel.  Dywedasant fod cynlluniau arfaethedig ar gyfer rheoli diogelwch plymio ar y safle, wedi ei reoleiddio gan ddarparwyr trwydded, a chyfleusterau toiled ar gyfer pobl yn plymio.    

Roedd y cwmni yn awyddus i gadw cysylltiad barhaus efo’r Cyngor Cymuned, ac yn rhagweld amserlen o rhyw 3-4 mlynedd cyn gallu cwblhau’r broses gynllunio yn gyntaf.

Mehefin 2017

Croesawyd y Cyngorydd Judith Humphreys i'n cyfarfod fis Mai - Aelod newydd dros Penygroes.  Edrychwn ymlaen i gyd-weithio.

Mae'r Cyngor Cymuned wedi gwneud ymholiadau pellach am y cwtogiad yn oriau agor llyfrgell Penygroes.  Bu i'r Cyngor Cymuned gytuno i gyfrannu yn ariannol er mwyn cadw oriau agor y llyfrgell, ond er hyn, mae'r oriau agor wedi eu cwtogi.  

Mae cwtogiadau pellach i grant torri llwybrau cyhoeddus yn golygu bod llawer iawn llai o gyllid eleni ar gyfer y gwaith, a bydd hwn yn lleihau hyd yn oed mwy eto y flwyddyn nesaf.  Byddwn yn ddiolchgar iawn i'r cyhoedd petaech yn cysylltu gyda'r Cyngor Cymuned efo manlyion unrhyw lwybrau yr ydych yn eu cerdded a pha mor aml.  Rydym yn bwriadu gwneud arolwg o'r llwybrau sy'n cael eu defnyddio.  Gellir ebostio ajohnson200@btinternet.com.

Mai 2017

Cyfarfod Blynyddol 2017 Cyngor Cymuned Llanllyfni

yn Festri Capel Soar Penygroes, ar nos Fawrth, 9fed o Fai 2017 am 7.00 y.h

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

Mawrth 2017

RHYBUDD ETHOLIAD - Cyngor Gwynedd - ARFON

Etholiad Cynghorwyr Sir 4 Mai 2017

Lawrlwytho'r manylion

Mai 2016

Cyfarfod Blynyddol 2016 Cyngor Cymuned Llanllyfni

yn Festri Capel Soar Penygroes, ar nos Fawrth, 10fed o Fai 2016 am 7.00 y.h

Cliciwch yma i weld yr hysbyseb yn gyflawn.

Ebrill 2016

Gwarchod y Gymdogaeth - OWL

Gwarchod y Gymdogaeth

Pa fath o gymdogaeth hoffech fyw ynddi?

Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn un o'r cynlluniau atal trosedd mwyaf llwyddiannus erioed.

Nid lleihau trosedd yn unig yw nod cynllun Gwarchod y Gymdogaeth - mae'n ceisio adeiladu ysbryd cymunedol a pherthnasau da.

Hoffai'r Cyngor Cymuned dynnu sylw trigolion lleol i'r cynllun hwn.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen wybodaeth.

Ionawr 2016

Bydd y Cyngor yn trafod ceisiadau am nawdd ariannol yng nhgyfarfod y Cyngor fis Chwefror - dylid cyfeirio ceisiadau drwy lythyr at Alwen Johnson (Clerc), Mon Awel, Lon Ysgubor Wen, Caernarfon, Gwynedd, neu drwy ebost i ajohnson200@btinternet.com erbyn diwedd mis Ionawr os gwelwch yn dda. Rhaid cynnwys maentolen ariannol.

Hydref 2015

Mae’r Cyngor yn bryderus am ddyfodol adeilad y Fic ym Mhenygroes, ac yn awyddus i gynnal cyfarfod gydag Alun Ffred Jones i agor trafodaethau.

Rydym hefyd wedi gwahodd swyddog o gwmni chwarel Cae Efa Lwyd I gyfarfod y Cyngor, a gobeithio cael cyfle i’w holi cyn ddiwedd y flwyddyn.

Hoffwn dynnu sylw rhieni fod rhai plant yn chwarae yn beryglus yn Cwtin.  Maent yn dringo dros y ffens a rhedeg i lawr am y lon fawr.  Mae pryder am eu diogelwch.

Gorffennaf ac Awst 2015

Gwahoddwyd yr Heddlu i’n cyfarfod fis Gorffennaf i drafod materion lleol.  Diolch i Julie Holland am fynychu.  Roedd yn annog pobl i adrodd materion i Crimestoppers ar 0800 555 111, pa bynnag mor fychan.

Cafwyd cyflwyniad gan elusen Sylfaen Cymunedol, ar ymgynghoiad cymunedol i ddyfodol Siop Griffiths Penygroes.

Daeth Sharon Brooks o Gilgwyn i roi cylfwyniad i’r Cyngor o bryderon trigolion Cilgwyn am effaith parc solar yn eu cymuned.

Mai 2015

Swyddfa Bost

Gresyn oedd gweld fod Swyddfa Bost Penygroes wedi cau.  Roedd pawb o'r Cyngor yn awyddus i drio cadw'r gwasanaeth Post yn y pentref ac yn gefnogol iawn o helpu i drio cael y Post yn ei ôl.

Baw Ci

Hoffem wneud cais i drigolion gadw llygad ar pwy sy'n gyfrifol am adael i'w cwn faeddu ar balmentydd y pentrefi.  Gellir rhannu'r wybodaeth yn gwbl gyfrinachol gyda Peter Simpson o Gyngor Gwynedd.

Chwefror 2015

Mae'r Cyngor Cymuned yn ddiolchgar iawn i Grŵp Cerddwyr Caernarfon a Dwyfor am eu gwaith gwirfoddol o glirio llwybrau 1 / 4 yn Nhalysarn.  Mae'r gwelliant yn un mawr, a gwerthfawr i'r Cyngor.  Mae'r dull sydd mewn grym o raddio llwybrau yn golygu na fydd llwybrau o'r fath yn cael eu cynnwys ar raglen torri, ac felly mae'r math yma o waith gan wirfoddolwyr yn dod yn llawer mwy pwysig i'r dyfodol.

Llwybr 1-4 Talysarn - Llun 1

Llwybr 1-4 Talysarn - Llun 2

Llwybr 1-4 Talysarn - Llun 4Llwybr 1-4 Talysarn - Llun 5

Llwybr 1-4 Talysarn - Llun 3

Ionawr 2015

Grantiau

Mae'r Cyngor Cymuned yn cael yr hawl i roi grantiau i grwpiau a sefydliadau lleol.

Fel arfer gwneir penderfyniadau am grantiau yng nghyfarfod y cyngor ym mis Chwefror. Os yw eich grŵp yn dymuno gwneud cais am grant, anfonwch fanylion eich cais i'r Clerc erbyn diwedd mis Ionawr, os gwelwch yn dda, yn cynnwys at ba ddiben y byddwch yn defnyddio'r grant, ac yn amgáu copi o gyfrifon diweddaraf eich grŵp.

Rhagfyr 2014

Cyfle i dendro am y Gytundeb Cynnal Mynwentydd a’r Cytundeb Cynnal Llwybrau am 3 mlynedd (01/04/2015 – 31/03/2018)

Dyddiad cau: 6:00 yr hwyr, Dydd Gwener, 06 chwefror 2015

Nid yw'r dogfennau ar gael rhagor gan fod y dyddiad cau wedi pasio.

Awst 2014

Gwefan y Cyngor Cymuned yn cael ei lansio

Gyda chymorth gan Gronfa Cist Gwynedd, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Cymuned Llanllyfni yn falch o gyflwyno gwefan newydd y Cyngor - www.llanllyfni.org.uk.

Byddwn yn defnyddio'r wefan i rannu gwybodaeth am waith y Cyngor Cymuned, yn ogystal â chyflwyno cofnodion cyfarfodydd y Cyngor.