Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanllyfni
Gwybodaeth am rôl a gwaith y Cyngor Cymuned, ac ardal Cyngor Cymuned Llanllyfni
Mae ardal Cyngor Cymuned Llanllyfni yn cynnwys pentrefi Nantlle, Talysarn, Tanrallt, Penygroes, Llanllyfni, Nebo a Nasareth.
Mae gwaith y Cyngor Cymuned yn cynnwys gofalu am nifer o lwybrau cyhoeddus yr ardal a thair mynwent.
Bro Lleu
Ardal chwedlau byd enwog y Mabinogi ac un o lefydd mwyaf Cymreig y byd. Mae yma lwybrau cerdded a beicio o'r safon uchaf, gwinllan, bragdy, crefftwyr lleol ac anrhegion unigryw.
Mwynhewch wledd o hanes, diwylliant a threftadaeth mewn tirwedd gogoneddus. O'r Môr i'r mynydd, mae Dyffryn Nantlle yn ardal hudolus, hanesyddol a chyffrous. Croeso i Fro Lleu.